![]() |
YSGOL RHYDYPENNAU | ||||||||||||||||
'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd' |
|||||||||||||||||
| English | |||||||||||||||||
|
Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Rhydypennau, Bow Street. Lleolir Ysgol Rhydypennau ym mhentref Bow Street, rhyw bedair milltir i’r gogledd o Aberystwyth ar y brif ffordd sy’n arwain i Fachynlleth. Agorwyd adeilad yr ysgol newydd yn 1973. Ac fe agorwyd estyniad newydd i'r Meithrin a'r Derbyn yn Nhachwedd 2009 Apwyntiwyd y pennaeth a’r dirprwy bennaeth ym mis Medi 2002. Ar hyn o bryd mae 185 o ddisgyblion ar y gofrestr. Dynodir yr ysgol yn Gategori A. Golyga hyn mai’r Gymraeg yw’r prif gyfrwng ym mywyd a gwaith yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd. Mae’r ysgol yn anelu at, "Dyfu a dysgu gyda’n gilydd ac i ddatblygu pob unigolyn i’w lawn botensial mewn amgylchedd hapus a Chymreig.” Ymfalchiwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o Eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
|
||||||||||||||||