'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd'

 
line decor
   English
line decor
   

 
 

 

Llawlyfr

 

  Lleolir Ysgol Gynradd Rhydypennau ym mhentref Bow Street, rhyw bedair milltir i’r gogledd o Aberystwyth ar y brif ffordd sy’n arwain i Fachynlleth. Mae’r plant meithrin a’r dosbarth derbyn yn estyniad newydd (Agorwyd Mai 2009) a gweddill y dosbarthiadau (Bl 1-6) yn y prif adeilad, a agorwyd ym 1973.

  Disgrifir yr ardal breswyl y daw’r disgyblion ohoni fel un nad yw’n ffyniannus nac o dan anfantais economaidd. Tua 19% o’r disgyblion sy’n dod o aelwydydd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith. Mae 10% o’r disgyblion yn derbyn cinio rhad ac am ddim a dynodwyd 41 (22%) a chanddynt anghenion addysgol arbennig (AAA), yn cynnwys 2 (1%) disgybl gyda datganiad o AAA.

  Apwyntiwyd y pennaeth a’r dirprwy bennaeth newydd ym mis Medi 2002.
Ar hyn o bryd mae 188 o ddisgyblion ar y gofrestr. Diffinir yr ysgol fel ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yn unol â dogfen Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ‘Diffinio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg’ (Hydref 2007). Golyga hyn mai’r Gymraeg yw’r prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd.

  Mae’r ysgol yn anelu at,’Dyfu a dysgu gyda’n gilydd ac i ddatblygu pob unigolyn i’w lawn botensial mewn amgylchfedd hapus a Chymreig’. Arolygwyd yr ysgol yn flaenorol ym mis Mehefin 2011.

Cynnwys
 
 

1. Enw a chyfeiriad yr ysgol

2.  Rhif ffôn yr ysgol

3.  Prifathro

4.  Dirprwy Brifathro

5.  Athrawon

6.  Llywodraethwyr

7.  Math o ysgol

8.  Ysgol Uwchradd

9. Trefniadaeth yr Ysgol

10. Staff

11. Staff Ychwanegol

12. Gwasanaeth Athrawon Bro

13. Trefn cinio

14. Trefn yr Uned Feithrin

15. Trefn Adran yBabanod / Ysgol Iau

16. Nod ac Amcanion

17. Y Cwricwlwm

18. Strategaeth Iaith.

19. Addysg Grefyddol.

20. Addysg Ryw.

21. Gwaith Cartref.

22. Gweithgareddau.

23. Clybiau Llyfrau.

24. Cynllun Cerdd.

25. Gwisg Ysgol.

26. Datblygiad y Plentyn.

27. Gofal Bugeiliol.

28. Tywydd Garw.

29. Disgybliaeth a Rheolau’r Ysgol.

30. Cysylltiadau Rhieni â’r Ysgol.

31. Gwasanaethau Cynorthwyol.

32. Calendr Gwyliau.

33. Polisiau.

34. Anghenion Arbennig.

35. Gwybodaeth ynglŷn â sut i gwyno.

36. Rhwydwaith Ysgolion Iach, Eco a Masnach Deg.

37.Cymryd Gwyliau Teulu adeg Tymor.

 

1.Enw a Chyfeiriad yr Ysgol.

 

     Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau.

    Bow Street,

   Ceredigion.

   SY24  5AD.

 

2.Rhif ffôn a ffacs yr Ysgol.

    (01970) 828608

3.Prifathro.

Mr. J.A. Havard

4.Dirprwy Brifathro.

Mr. M. Jones

5.Athrawon.

 

     Mr. M. Jones                  -  Blwyddyn 5/6

   Mr. E. Rees                    -  Blwyddyn 4/5

   Mrs. H.M. Williams        -  Blwyddyn 3/4

   Mrs. O.Morus                   -  Blwyddyn 2

   Mrs. Ll. Bonsall               -  Blwyddyn 1

   Mrs. A. Fanning              -  Dosbarth Derbyn

   Miss. R. Vearney-Roberts - Meithrin  

   Mrs B. Davies                 - CAAA      

 

6.Llywodraethwyr.

Cyng.G.Phillips (Cadeirydd), Mr R Gethin (Is-Gadeirydd), Cyng.P Hinge, Cyng.R.Quant, Cyng. D. England, Mr W.Lewis, Mr A. Ifans, Ms Sarah Hawkins, Mr M. Clubb, Parch.R.Lewis, Mr D.A.Davies, Mrs A Fanning, Mrs D. Simpson Jones, Mr A. Havard.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Rhydypennau yn cyfarfod unwaith y tymor. Cynhelir cyfarfod agored i rieni unwaith y flwyddyn. Copi o’r cofnodion i’w gweld yng nghyntedd yr ysgol.

7.Math o Ysgol.

Ysgol Categori A Meithrin/Babanod/Iau (3 – 11 mlwydd oed) Derbynnir tua 26 plentyn y flwyddyn

 

8.Ysgol Uwchradd.

Trosglwyddir y plant pan yn 11 oed i Ysgol Gyfun Penweddig neu Ysgol Gyfun Penglais yn unol â dewis y rhieni.

 

9.Trefniadaeth yr Ysgol.

Derbynnir plant i’r Dosbarth Meithrin ar ddechrau’r tymor wedi iddynt gael eu tair oed. Bydd y plant dros 4 oed ar ddechrau blwyddyn ysgol yn aros drwy’r dydd yn y Dosbarth Derbyn. Bydd yr Uned Feithrin ar agor rhwng 9.00y.b. a 3.25y.p.

Ceir 2 ddosbarth babanod a 3 dosbarth plant Iau.

Bydd y Babanod/Iau ar agor rhwng 9.00 y.b. a 3.30 y.p. Gofelir am blant 15 munud cyn agor a 15 munud ar ôl adeg cau. Amser cinio yw 12 hyd 1 o’r gloch.Gwaherddir ceir rhag dod i fewn trwy lidiardau’r ysgol heb ganiatad. Disgwylir i’r rhieni roi gwybod i’r Prifathro os bydd plentyn yn absennol. Disgwylir hefyd i’r rhieni roi gwybod i’r ysgol am ymweliadau â’r deintydd neu feddyg a.y.y.b. yn y bore ac yn bwriadu cyrraedd yr ysgol erbyn cinio.

     

10.Staff.

Dibynna rhif y staff ar rif y plant sydd yn yr ysgol. Gall y ddau rif amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Ar hyn o bryd nid yw’r Prifathro â gofal dosbarth a cheir 6.95 athro/athrawes a 4 o gynorthwy-ydd yn gyfrifol am blant unigol.  Mae 1 cynorthwywraig feithrin, 5 o weithwyr cynnal dysgu a 2 C.A.L.U.

11.Staff Ychwanegol.

Dibynna hyn ar drefniant yr ysgol a’r Swyddfa Addysg. Amrywia nifer yr athrawon teithiol sy’n dysgu offerynnau cerdd yn ôl y ddarpariaeth a gynigir gan y Trefnydd Cerdd.

12.Gwasanaeth Athrawon Bro.

    Ers 1978 apwyntiwyd 26 o Athrawon Bro gan Ddyfed (8 i Geredigion) i gynorthwyo ysgolion cynradd (gan fwyaf) gyda chyflwyno’r  Gymraeg fel mamiaith ac ail-iaith.  Gosodir yr Athrawon Iaith hyn mewn ysgolion mewn ymgynghoriad rhwng y prifathrawon a’r Ymgynghorydd Iaith.
  Un agwedd bwysig ar eu gweithgarwch yw hyfforddi’r hwyr-ddyfodiad    
a pharatowyd cwrs arbennig ar gyfer y mewn-ddyfodiad hyn. Sefydlwyd
Uned Iaith ar gyfer hwyr-ddyfodiad yn Ysgol Gyfun Penweddig yn 1990.
              

 13.Trefn Cinio

Mrs. M. Fleming yw’r prif-gogyddes sy’n gyfrifol am baratoi cinio ganol dydd.  Y pris ar hyn o bryd yw £1.90 y dydd i’w dalu bob bore Llun i’r clerc, Mrs. G. Mathias.  Bydd y clerc hefyd yn bresennol bob Bore Gwener i gwblhau cyfrifon yr wythnos.

Mae yna ddwy aelod o staff yn y gegin a thair ofalwraig amser cinio. Yn yr Uned Feithrin mae un aelod o staff y gegin a dwy ofalwraig amser cinio. Gellir cael ffurflen gais am ginio di-dâl gan y prifathro neu o’r Swyddfa Rhanbarthol yn Aberystwyth. (01970633664).

Os yw’r plentyn yn dod â’i fwyd ei hun, gofynnir iddo beidio defnyddio poteli gwydr. 

14.Trefn yr Uned Feithrin.

Ceir yma ddau ddosbarth sef Dosbarth Meithrin a Dosbarth Derbyn.

15.Trefn Adran y Babanod / Adran Iau.

Ceir yma ddau ddosbarth ar gyfer adran y Babanod.
Ceir dwy ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran Iau.  Mae plant 7-9 oed mewn un ystafell a phlant 9-11 oed yn yr ystafell arall.

Yn ychwanegol i ddysgu eu dosbarthiadau defnyddir arbenigedd yr athrawon i ddysgu ar draws yr ystod oedran.

 

16.Nod Ac Amcanion

 

YSGOL RHYDYPENNAU

NOD AC AMCANION.

TYFU A DYSGU GYDA’N GILYDD

 

I  DDATBLYGU  POB UNIGOLYN I’W LAWN BOTENSIAL MEWN AMGYLCHEDD HAPUS A CHYMREIG

 

TRWY :-

  • helpu plant i feithrin meddyliau bywiog ac ymchwilgar , gan gynnwys y gallu i holi a dadlau yn rhesymegol ac ymateb i dasgau
  • greu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o gymdogaeth , iaith, diwylliant ac amgylchedd y plentyn a bod yn ymwybodol o gyfnodau a mannau eraill
  • ddatblygu iaith yn ei holl ffyrdd, er mwyn iddi fod yn ddull pwrpasol ac ystyrlon o gyfathrebu , gan gynnwys gwrando, siarad , darllen , ysgrifennu a gwerthfawrogi llen yn y ddwy iaith
  • ddatblygu medrau a deallusrwydd mathemategol
  • ddatblygu medrau a deallusrwydd gwyddonol a thechnolegol mewn byd sy’n gyflym newid
  • ddatblygu hunan- fynegiant trwy Gerddoriaeth , Drama, Celf, Dylunio a Thechnoleg ,Addysg Gorfforol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol
  • ddysgu hunan-reolaeth wrth ddefnyddio offer a chyfarpar
  • feithrin arferion hunan-ddisgyblaeth
  • greu ymwybyddiaeth o’r angen am foesgarwch a chwrteisi
  • hybu arferion diogelwch yn yr ysgol , cartref a’r gymdeithas

17.Y Cwricwlwm.

Cael y plant yn rhugl yn y ddwy iaith yw nod yr ysgol.  Cyfranna’r Uned Feithrin yn helaeth tuag at gyrraedd y nod yma.

Rhoddir pwyslais ar ddiwylliant Cymreig yn ei holl agweddau er mwyn rhoi gwreiddiau  i’r plentyn ac ymwybyddiaeth o berthyn.

Dechreuir darllen ac ysgrifennu cyn gynted ag y bo’r plentyn yn barod  i hynny, fel bo’r ddwy iaith yn cyd-ddatblygu yn yr ysgol gynradd, ac yn arwain at ddwyieithrwydd erbyn un-ar-ddeg oed.

Pan dderbynnir plentyn di-Gymraeg i flynyddoedd olaf yr ysgol, gwneir trefniadau arbennig ar ei gyfer.

Dewisir thema bob tymor.  Cynllunir gwersi ar wahanol agweddau o’r thema yn cynnwys Mathemateg, Iaith, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg,T.G.Ch, Daearyddiaeth, Hanes, Cerddoriaeth, Celf, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol ac A.B.Ch. gan gweithio o fewn canllawiau y Cwricwlwm Cenedlaethol/Fframwaith ar gyfer dysgu plant 3 i 7 oed/Fframwaith sgiliau. 

Daw cyfle trwy hyn i gyfleu gwybodaeth, i ennyn diddordeb, i feithrin deallusrwydd ac i ddatblygu medrau a hunan-fynegiant yn ddwy iaith.         

Mae llyfrgell gynhwysfawr ac adnoddau defnyddiol ar gyfer y plant a’r athrawon.                          
Dysgir Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth gan wneud defnydd o allu arbennig rhai aelodau o’r staff. Datblygir unrhyw ddiddordeb mewn offerynnau cerddorol.

Ar hyn o bryd, caiff rhai disgyblion hyfforddiant telyn, ffidl, soddgrwth, clarinet, ffliwt, ac offerynnau pres gyda chyfle i fod yn  aelod  o gerddorfa ysgolion cynradd Cylch Aberystwyth.

18. Strategaeth Iaith

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau yn rhoi gwerth ar ddatblygu disgyblion a fydd yn hyderus ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Diffinir yr ysgol fel ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yn unol â dogfen Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ‘Diffinio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg’ (Hydref 2007). Golyga hyn mai’r Gymraeg yw cyfrwng addysg disgyblion Y Cyfnod Sylfaen.   
  Erbyn Cyfnod Allweddol 2 mae sgiliau Saesneg y disgyblion yn cael eu ffurfioli ac mae tua 80%  o’r Cwricwlwm yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddwn werth ar ddatblygu sgiliau llythrennedd ddeuol ein disgyblion. Golyga hyn y byddwn yn cynllunio cyfleuon addas i ddisgyblion ddarllen deunyddiau mewn un iaith, e.e gwefan Saesneg, gan ymateb drwy drafod y cynnwys yn y Gymraeg. Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 bydd disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau yn medru defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd fel cyfrwng cyfathrebu. Rydym yn rhannu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel a ganlyn:


Pwnc

Cyfrwng

Canran

Cymraeg

Cymraeg

15%

Saesneg

Saesneg

15%

Gwyddoniaeth
(pob uned yn 3%)

Cymraeg

Saesneg

Y Ddaear gynaladwy

Annibyniaeth a chyd-ddibyniaeth organebau

Trydan

Grymoedd

Sain a Goleuni

 

C – 9%
S – 6%

Mathemateg

Cymraeg

15%

Dylunio a Thechnoleg

Cymraeg

5%

TGCh

Cymraeg

5%

Hanes

Cymraeg

5%

Daearyddiaeth

Cymraeg

5%

Celf a Dylunio

Cymraeg

5%

Cerdd

Cymraeg

5%

Addysg Gorfforol

Cymraeg

5%

Addysg Grefyddol

Cymraeg

5%

Bydd disgyblion sydd yn ymuno â’r ysgol o flwyddyn 3 ymlaen yn mynychu Canolfan Iaith am gyfnod. Bydd y Ganolfan yn darparu cyfle gwych i’r disgybl ddatblygu’r Gymraeg yn gyflym. Yn yr un modd mae darpariaeth ar gael i rieni a fyddai’n dymuno dysgu’r Gymraeg. Mae fwy o wybodaeth am gyrsiau addas i rieni cysylltwch â: Canolfan Iaith Ceredigion ar 01545 572 717

19.Addysg Grefyddol.

Cynnwys hwn wasanaeth bob dydd. Pwysleisir bod amser safonau Cristnogol a moesol.

20.Addysg Ryw.

Nid oes cynllun ar gael i ddysgu Addysg Ryw. Mae unrhyw gwestiynau sy’n codi yn cael eu hateb gan yr athro mewn ffordd sensitif.

21.Gwaith Cartref.

Anogir plant i fynd â llyfrau darllen adref a disgwylir i blant yn yr Adran Iau gwblhau tasg wythnosol a darllen un llyfr yr wythnos.

22.Gweithgareddau.

Trefnir gwersi nofio i blant 7-11 oed yn y pwll nofio yn Aberystwyth unwaith yr wythnos.Perthyn y timau pêl-droed a hoci i  gynghrair y ‘Mini-Minor’ yn
Aberystwyth. Maent yn chwarae’n rheolaidd ar nos Wener/foreau Sadwrn, ac yn ymarfer ar ôl ysgol.
Cynhelir Adran yr Urdd rhwng 3.30 a 4.45 o’r gloch nosweithiau
Mercher a chefnogir Eisteddfod a Gwersylloedd yr Urdd bob blwyddyn.

Dysgir y plant i gymryd diddordeb yn y gymdeithas leol. Drwy hyn gobeithir eu gwreiddio yn yr ardal a dangos iddynt eu cyfrifoldeb i’r gymuned leol.

Cynhelir dau Wasanaeth Crefyddol arbennig bob blwyddyn sef Gwasanaeth Diolchgarwch yn yr Hydref a Gwasanaeth Ewyllys Da yn mis Mai.
Bydd grwpiau o blant yn ymweld â Chartref Tregerddan yn gyson drwy’r flwyddyn i ddiddori’r henoed yno a cheisiwn ymweld â sefydliadau eraill yn yr ardal i hyrwyddo agweddau dyngarol.

23.Clybiau Llyfrau.

Gall plant ymuno â chlwb llyfrau Sbondonics.  Gallant archebu cylchgronau yr Urdd – Cip neu Wcw drwy’r ysgol.

24.Cynllun Cerdd.

Gweinyddir yr hyfforddiant offerynnol a ddarperir dan y cynllun uchod gan y Trefnydd Cerdd yn y Swyddfa Addysg Rhanbarthol yn Aberystwyth.  Yn ystod tymor yr Haf gweinyddir cyfres o Brofion Gallu Cerddorol cydnabyddedig i’r plant hynny fydd yn cael eu penblwydd yn wyth oed cyn diwedd mis Awst yn ysgol arbennig
honno.  Ar ôl i’r Trefnydd Cerdd dderbyn y canlyniadau ac ymgynghori â phrifathrawon ac athrawon dosbarth, cynnigir hyfforddiant i’r plant hynny fyddai’n debygol o elwa o dderbyn y fath hyfforddiant ac a fyddai’n derbyn cefnogaeth gartref gydag ymarfer ac yn y blaen.

Ceisir cynnig hyfforddiant ar gynifer o wahanol offerynnau ac y mae amgylchiadau’n caniatau.  Trefnir i’r gwersi gymryd lle naill ai yn yr ysgol neu mewn canolfan i ble y disgwylir i rieni fod yn gyfrifol am gludo’u plentyn.

25.Gwisg Ysgol.

Mae gwisg ysgol ar gael, gellir archebu’r wisg o’r ysgol .Gofynnir i rieni ddarparu dillad addas i’w plant ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol.

 26.Datblygiad y Plentyn.

Gofala’r Pwyllgor Addysg am asesu pob plentyn pan fydd tua 5 oed i ddarganfod os oes galw am addysgu arbennig.  Gellir trefnu asesiad seicolegol unrhyw adeg. Ers 1990 asesir plant 7 ac 11 oed yn ôl targedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.Mae cyfle i bob rhiant yn y Cyfarfodydd Rhieni, a drefnir ddwywaith y flwyddyn fel rheol, i weld gwaith eu plentyn ac i gael trafodaeth gyda’r athro dosbarth.  Rhoddir adroddiad ysgrifenedig i’r plant (5 -11 oed) unwaith y flwyddyn yng Nghorffennaf.Bydd pob athro dosbarth yn gweud ei orau i roi sylw personol i blentyn sydd âg anghenion arbennig.  Trefnir gwersi iddo fel unigolyn neu mewn grŵp bychan.

Bydd plant dros 7 oed gyda anghenion arbennig yn cael cyfle i gael gwersi ychwanegol gyda’r CAAA.

27.Gofal Bugeiliol.

Gofynnir i’r rhieni roi gwybod i’r prifathro os oes gan y plentyn unrhyw wendid corfforol neu unrhyw alergedd.  Os yw’r ddau riant yn gweithio, gofynnir am rif ffôn er mwyn medru cysylltu âg un ohonynt yn ystod y dydd pe bai rhaid.

Os digwydd salwch neu ddamwain, ceisir yn gyntaf, ddod i gysylltiad â’r rhieni.  Gwneir trefniadau i gludo’r plentyn i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth os bydd angen hynny.

Gyda rhai anhwylderau mae Awdurdod Iechyd Ceredigion yn argymell cadw plant o’r ysgol am gyfnod penodol.

Brech yr Ieir – 7 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.

       

        Brech Almaenig – 4 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.

     

        Brech Goch – 7 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.

 

        Clwy Pennau – 7 diwrnod wedi i’r chwydd ddiflannu.

Ni ddylai’r plant gyrraedd yr ysgol fwy na chwarter awr cyn amser.

Byddai o fantais fawr pe bai enw’r plentyn ar ei dillad uchaf, sgrepan ac esgidiau glaw.  Ni ddylid dod âg unrhyw eitemau drud i’r ysgol.

28.Tywydd Garw.

Bydd y Prifathro yr ysgol yn sicrhau bod rhieni yn cael rhybudd os bydd yr ysgol ar gau neu yn gorfod cau oherwydd tywydd garw.

29.Disgyblaeth a Rheolau’r Ysgol.

Disgwylir i bob plentyn ymddwyn yn dderbyniol, gan ddangos parch tuag at eraill a thuag at offer ac adeiladau’r ysgol.

30.Cysylltiadau Rhieni a’r Ysgol.

Fel mater o gwrteisi, disgwylir i’r rhieni hysbysu’r prifathro yn gyntaf pan fyddant yn ymweld â’r ysgol ar unrhyw fater.Gellir cysylltu a’r prifathro ar unrhyw adeg cyfleus. Hysbysir y rhieni o bob digwyddiad drwy gylchlythyrau.

Trefnir o leiaf un cyfarfod y tymor gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol.  Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yn nhymor yr Hydref pan etholir pwyllgor a swyddogion am y flwyddyn yn unol a chyfansoddiad y Gymdeithas.

31.Gwasanaeth Cynorthwyol.

Ceir ymweliadau cyson gan y nyrs,  meddyg, deintydd a therapydd lleferydd.  Caiff y rhieni wybod am yr ymweliadau hyn ac ni threfnir unrhyw driniaeth heb ymghynghori a’r rhieni yn gyntaf.

32.Calendr Gwyliau.

Bydd pob rhiant yn derbyn copi o galendr sy’n nodi dyddiadau gwyliau’r ysgol yn mis Gorffennaf.

33.Polisiau.

Ar gael i’w gweld gan unrhyw riant yn yr ysgol.

34.Anghenion Arbennig.

Therapydd Lleferydd – Miss. Mererid Davies.

Athrawes CAAA – Mrs. Bethan Davies.

SNAP CYMRU:
SNAP Cymru yn wasanaeth sydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a  chefnogaeth i deuluoedd plant oedd yn meddu, neu a allai feddu, ar anghenion addysg arbennig (AAA), yn hyrwyddo partneriaethau rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol, ac yn cynnwys pobl ifanc yn y  prosesau cynllunio a phenderfynu.

35.Gwybodaeth Ynglŷn â Sut i Gwyno.

Mae’r wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno yn unol â Pholisi Awdurdod Addysg Ceredigion.  Dylai’r rhieni drafod gyda’r Prifathro yn ôl yr angen.

36.Rhwydwaith Ysgolion Iach, Eco a Masnach Deg.

Mae’r ysgol yn aelod o gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ac yr ydym newydd ennill statws Cyfnod Tri-un o'r ysgolion cyntaf yng Ngheredigion i wireddu hyn.

'Rydym hefyd yn 'Ysgol Eco'; mae'r llwyddiant diweddar yma yn cydnabod gwaith di-flino'r staff a'r plant i ailgylchu, i bwysleisio agweddau gwyrdd ac i ofalu am yr amgylchedd. Mae baner 'Ysgol Eco' yn ymddangos ar dir yr ysgol i gadarnhau yr orchest hon.

Mae Masnach Deg yn agwedd bwysig iawn ym mywyd cyffredinol yr ysgol; heblaw am siop wythnosol sy'n gwerthu cynnyrch Masnach Deg, 'rydym hefyd yn trefnu gwasanaethau, gwersi a chyflwyniadau cyffredinol i bwysleisio ac i godi ymwybyddiaeth a phwysigrwydd yr elfen hon i bawb sy'n gysylltiedig a'r ysgol.

37.Cymryd Gwyliau Teulu Adeg Tymor.

Fel arfer, ni ddylai rhieni/gwarcheidwaid gymryd disgyblion ar wyliau adeg tymor, a pholisi Awdurdod Addysg Lleol Ceredigion yw eu hannog i beidio â gwneud hyn.  Yn ôl Rheoliadau Presenoldeb Ysgol (Cofrestru Disgyblion) 1995, mae gan ysgolion hawl ddewisol i ganiatáu gwyliau teuluol blynyddol adeg tymor, ar yr amod fod yna amgylchiadau arbennig ar gyfer y cais, a bod y cais wedi’i gyflwyno ymlaen llaw gan y rhiant/gwarcheidwad sy’n preswylio gyda’r plentyn fel arfer.  Dim ond y pennaeth all ganiatáu’r absenoldeb hon ond peidiwch â disgwyl i’r pennaeth dderbyn eich cais yn otomatig.  Hefyd, nodwch mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu absenoldeb o fwy na 10 niwrnod ysgol o fewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Bydd y pennaeth yn ystyried pob cais am absenoldeb gwyliau yn ofalus iawn gan gymryd i ystyriaeth oedran y disgybl, amseru’r gwyliau a hanes presenoldeb y disgybl.  Yna, gwneir penderfyniad a ddylid rhoi caniatâd neu beidio.  Os cymer y rhieni eu plentyn i ffwrdd ar wyliau heb ganiatâd cytunedig y pennaeth, yna bydd yr absenoldebau hyn yn rhai anawdurdodedig a chânt eu hadrodd yn ôl i’r Awdurdod Addysg Lleol.

Petai’r ysgol yn caniatáu gwyliau adeg tymor, byddwn yn gofyn ichi drafod ffyrdd gyda’r pennaeth o gynorthwyo’ch plentyn i ddal i fyny â’r oriau addysg a gollwyd (50 awr ar gyfer gwyliau 10 niwrnod).