![]() |
YSGOL RHYDYPENNAU | ||||||||||||||
'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd' |
|||||||||||||||
| English | |||||||||||||||
|
Newyddion Gorffennaf Estyniad Mae'r gwaith yn parhau.
Garddwest Mrs Gaenor Jones yn agor Garddwest 2008 yn swyddogol.
Mabolgampau Rasus Byr
Rasus Sach
Y Ras Deircoes
Ras y Bagiau Ffa
Y Ras Rwystr
Y Ras Dwnel
Ras Hir merched blwyddyn 3 a 4
Ras Hir Bechgyn 3 a 4
Ras Hir Merched blwyddyn 5 a 6
Ras Hir Bechgyn blwyddyn 5 a 6
Nifer fwyaf o bwyntiau-Merched 3 a 4- Ffion Evans. Yn cyflwyno'r gwobrau mae Mr Richard Gethin-Cadeirydd Pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol.
Nifer fwyaf o bwyntiau-bechgyn 3 a 4-Sion Ewart
Nifer fwyaf o bwyntiau-merched 5 a 6-Katherine Lewis
Nifer fwyaf o bwyntiau-bechgyn 5 a 6-Iestyn Evans
Capteniaid Buddugol Rheidol-Gwern Penri ac Heidi Williams
Trip i Dan yr Ogof
Masnach Deg
Gala Nofio O'r chwith Rachel Howard (merch gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau) Tomos Williams a Jacob Hodges (capteiniaid y ty buddugol-Ystwyth) ac Iestyn Evans (bachgen gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau).
Criced Enillwyr pencampwriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru. Record cant y cant-chwarae 5 ac ennill 5! (Cefn o'r chwith) Paul Keegan, Sam Hesden, Katherine Lewis, Heidi Williams, Dafydd Rees. (Blaen o'r chwith) Harri Gethin, Tomos Williams, Gwern Penri, Iestyn Evans
Y tim, yn cynnwys dau wyneb newydd (Jac a Joe Williams) yn Ffordd Grace, Caerlyr-rownd defynol pencampwriaeth Prydain. Diwrnod Gwobrwyo Huw Owen, yn dilyn ei lwyddiant diweddar yn Eisteddfod yr Urdd, yn ymweld gyda'r ysgol er mwyn cyflwyno amryw o wobrau i'r plant.
Mehefin Gwasanaethau Arbennig. Er mwyn dathlu Neges Ewyllys Da eleni cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn neuadd yr ysgol gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth y plant o’r Neges Heddwch sydd bellach yn draddodiad blynyddol ers dros hanner canrif. Blwyddyn chwech oedd yn gyfrifol am egluro hanes a thraddodiad y neges bwysig i weddill yr ysgol. Prif eiriau’r neges y flwyddyn hon oedd brwydro yn erbyn effaith newid hinsawdd.
Rygbi Cenedlaethol yr Urdd. Gan fod bechgyn tîm rygbi’r ysgol wedi llwyddo ym mhencampwriaeth Ceredigion ychydig cyn Y Pasg eleni, roeddynt yn cynrychioli’r sir yn y gystadleuaeth Cenedlaethol ar Barc y Strade, Llanelli ar y 3ydd o Fai. O ystyried fod safon cyffredinol y gystadleuaeth yn uchel iawn a’r grwp yr oeddynt ynddi yn hynod o anodd, fe chwaraeodd y bechgyn yn neilltuol o dda gan ddyfalbarhau hyd y chwiban olaf. Fe enillodd y bechgyn un gem, a chafwyd ddwy gem gyfartal. Felly, er na chollwyd yr un gêm, methu wnaethant o drwch blewyn i fynd ymlaen i’r rownd gyn-derfynol ar geisiadau; hen dro ond perfformiad campus!
Ceri Wyn Jones Ar y 9ed o Fai bu bechgyn blwyddyn 6 yn ffodus iawn i dderbyn sesiwn o farddoniaeth dan ofal Y Prif Fardd enwog, Mr Ceri Wyn Jones yng nghlwb rygbi Aberystwyth. Cafodd pawb fore buddiol iawn ac fe elwodd pob un ohonynt o’r profiad.
Trawsgwlad. Ar ddydd Sadwrn,10eg o Fai, bu nifer o blant yr ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth trawsgwlad Cenedlaethol yr Urdd. Daeth cannoedd o redwyr o’r safon uchaf i gaeau Blaendolau a chafwyd cystadlaethau arbennig o dda. Rhedodd pob un o blant yr ysgol yn wych ac fe lwyddodd y canlynol i ennill medalau am lwyddo i ddod o fewn y tri cyntaf yn y tlws am y tîm gorau trwy Gymru gyfan! Trydydd-(Merched – blwyddyn 4) Ffion Evans, Lucy Ankin, Trydydd-(Merched – blwyddyn 5) Hannah Megan Miles, Bethan Henley, Hannah Lee Bowen. Campus!
Llun yr Ysgol. Ar yr 20ed o Fai fe ddaeth cwmni ffotograffiaeth Tempest i’r ysgol er mwyn tynnu llun yr ysgol gyfan. Dyma’r ail dro i’r ysgol fentro tynnu llun ysgol gyfan ac yr oedd hi’n tipyn o gamp sicrhau fod pawb yn gwenu ar yr adeg iawn! Ond wedi derbyn y copi cyntaf ac o ystyried llwyth yr archebiadau, mae’r fenter wedi bod yn lwyddiant ysgubol. Colourscape
Eisteddfod yr Urdd. Yn hytrach na’ ymlacio a mwynhau gwyliau’r hanner tymor bu nifer o blant ac athrawon yr ysgol yn mynychu Eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy. Perfformiodd pawb yn wych yn y rhagbrofion ac er i bedwar o’r pump eitem fethu o drwch blewyn i gyrraedd y llwyfan; llwyddodd Dafydd Siôn Rees nid yn unig i gyrraedd llwyfan Y Pafiliwn ond dyfarnwyd mai ef oedd y chwaraewyr pres gorau yng Nghymru! Hoffa’r ysgol ddiolch i’r plant am eu gwaith diwyd, y rhieni am eu cefnogaeth a chan’ ddiolch hefyd i Mrs Helen Medi Williams a Mrs Eleri Roberts am eu hyfforddiant arbennigol dros yr wythnosau. Dyma gofnod o brofiad Eisteddfodol Dafydd:- Ar ol rhagbrawf y parti cerdd dant rhedais i stiwdio 3 er mwyn perfformio yr uned pres. Roedd y trydydd cystadleuwr newydd orffen; agorodd y stiward y drws i fi ac es i i mewn. Roeddwn i fod arno yn seithfed ond gab fy mod mewn rhagbrawf arall es i arno'n olaf. Felly mewn tua hanner awr, roeddwn yn perfformio. Roeddwn yn nerfus iawn; cefais ddechreuad da iawn er fy mod yn crynnu ond daliais ati yn benderfynol. Ar ol gorffen ochneidiais mewn rhyddhad a cherddais oddi ar y llwyfan. Yna cefais newyddion gwych; roeddwn wedi cael llwyfan! 'roeddwn yn hapus iawn ac roeddwn eisiau ennill y gystadleuaeth yn fwy byth nawr. Pan es i ar lwyfan y pafiliwn, roeddwn yn teimlo tipyn yn fwy hyderus nag oedden yn y rhagbrawf oherwydd roeddwn yn gwybod fy mod am gael medal beth bynnag. Chwaraeais yr un mor dda ag yn y rhagbrawf felly roeddwn yn bles iawn. Roedd yr amser yn symud yn araf iawn wrth ddisgwyl am y canlyniad, ond pan ddaeth fy enw ar y brig roeddwn wrth fy modd! Dafydd Rees
Herio’r Haul Ar y 3ydd o Fehefin fe ddaeth Nyrs yr Ysgol, Sioned Burrell i flwyddyn 1 a 2 er mwyn codi ymwybyddiaeth y plant o’r peryg sydd yn ein gwynebu ni yn uniongyrchol o’r haul yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn. Bu’n cyflwyno ac esbonio yr hyn sydd angen i ni wneud er mwyn ein diogelu o gryfder yr haul. Hoffa’r ysgol ddiolch i Nyrs Sioned am ei chymorth a’i chyngor pwysig yn ystod y sesiwn. Côr Ceredigion Mae 6 o blant blwyddyn 6 wedi bod yn brysur yn ymarfer yn ddiwyd yn ddiweddar er mwyn perfformio nifer o ganeuon gyda Chôr Ceredigion. Ar y 6ed o Fehefin, aethant i’r Eglwys yn Llanbadarn er mwyn recordio CD o’r caneuon yma. Mi fydd y CD ar werth yn y siopau cyn hir. Llun yr Ysgol. Ar yr 8ed o Fehefin cafwyd ailymweliad i’r ysgol gan gwmni ffotograffio Tempest. Y tro yma y bwriad oedd tynnu lluniau y dosbarthiadau, y grwpiau amrywiol a berfformiwyd yn ystod y flwyddyn a thimau chwaraeon yr ysgol. Mae’r lluniau ar gael i’w harchebu nawr. Mynd am y Miliwn Ar y 5ed o Fehefin cafodd plant blwyddyn 6 y cyfle i brofi eu sgiliau busnes yn ysgol Penglais. Mewn grwpiau o 6 cafodd pawb swm o arian er mwyn prynu deunydd i greu cynnyrch arbennig. Roedd yn rhaid iddynt wedyn drafod er mwyn cael y pris uchaf posib er mwyn ennill y dasg. Cafodd pawb llawer o hwyl a dysgodd pawb amryw o bethau am y byd busnes.
Mai Penwythnos yn Llangrannog Mae’r ysgol yn parhau i fod yn brysur iawn; ar y 18ed o Ebrill fe deithiodd 47 o blant blynyddoedd 4, 5 a 6 i Langrannog am y penwythnos er mwyn profi a mwynhau nifer o weithgareddau difyr yng Ngwersyll yr Urdd.
Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd. Ar y 18ed o Ebrill dathlwyd diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yn yr ysgol. Pwrpas y trefniant oedd codi arian i’r Urdd. Cafodd pawb yn yr ysgol gyfle i wisgo dillad lliwiau’r Urdd. Ar ddiwedd y dydd casglwyd £109.10 i’r Urdd. XLWales. Cafwyd ymweliad arall gan Mr Eifion Collins, XLWales ar y 29ain ar 30ain o Ebrill. Mae Mr Collins yn ymweld â’r ysgol ddwywaith y flwyddyn er mwyn datblygu sgiliau technoleg a gwyddonol y plant. Mae’r plant yn mwynhau cwblhau y tasgau yn fawr iawn ac y mae gweithgareddau Mr Collins yn parhau i fod yn hynod o ddifyr.
Cyfathrebu â Gwlad Ghana. Yn ystod y mis bu aelodau Pwyllgor Eco yr ysgol yn siarad â phlant o wlad Ghana yn Affrica trwy gysylltiad ‘Web Cam’ swyddogol. Trefnwyd y cyfathrebiad arbennig yma er mwyn codi ymwybyddiaeth parhaus y plant i gynllun Masnach Deg ar y cyd gyda Diane Isenberg a ‘Trading Vision’. Dyma gofnod un o aelodau’r pwyllgor:- Yn ddiweddar siaradais i a gweddill aelodau Pwyllgor Eco’r Ysgol gyda nifer o blant ysgol yn Ghana trwy gysylltiad ar ‘Web Cam.’ Ar ôl trafod a chymharu bywyd yn y ddwy wlad; dysgais llawer o bethau am fywyd yn Ghana; roedd rhanfwyaf o rieni’r plant yn ffermwyr ‘coco’ ac yr oeddwn yn falch o glwywed eu bod yn gwerthu eu cynnyrch i gwmniau Masnach Deg. Siaradom ni am beth oeddynt yn ei wneud ar ôl ysgol, beth yw’r tywydd fel yn Ghana a beth oeddynt yn hoffi ei wneud yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol. Roedd yn brofiad diddorol iawn, a dysgais nifer o bethau pwysig iawn. Tomos Gillison Blwyddyn 5
Gwasanaethau. Mae Y Parch. Richard Lewis, Y Parch. Andrew Lenny a’r Parch. Wyn Morris bellach wedi cyfrannu i wasanaethau boreol yr ysgol yn ystod y tymor yma. Hoffa’r ysgol ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu hamser a’u cyfraniadau gwerthfawr. Chwaraeon. Cynhaliwyd cystadleuaeth trawsgwlad rhanbarth ceredigion Yr Urdd ar y 25ain o Ebrill yn Llangrannog. Teithiodd saith o blant o’r ysgol i’r gwersyll er mwyn cynrychioli cylch Aberystwyth. Llwyddodd y naw i orffen y cwrs yn effeithiol a llongyfarchiadau mawr iddynt hefyd gan fod pob un ohonynt wedi llwyddo i orffen yn y dwsin cyntaf; Katherine Lewis (bl 6-nawfed), Iestyn Evans (bl 6 wythfed), James Albrighton (bl 5-unfedarddeg), Ffion Evans (bl 4-ail) Lucy Ankin (bl 4-unfedarddeg) Sion Ewart (bl 4-cyntaf) Sion Manley (bl 3-chweched) Campus! Ar y 29ain o Ebrill, bu tîm pel-droed bechgyn a merched yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Yr Urdd ar gaeau Blaendolau. Cystadleuaeth rhwng holl ysgolion Ceredigion oedd hon; ac yr oedd ansawdd y pel-droed o’r safon uchaf. Ar ddiwedd y dydd ac ar ôl curo 5 ysgol, llwyddodd y merched i gyrraedd y rownd derfynol ond colli bu’r hanes ar giciau o’r smotyn-anlwcus iawn. Curodd y bechgyn 4 o ysgolion ond methu wnaethant o drwch blewyn i gyrraedd y rownd gyn derfynol. Llongyfarchiadau mawr i chwaraewyr y ddau dîm am eu hymdrechion ardderchog.
Noson Agored. Cynhaliwyd noson agored yn yr ysgol ar y 28ain o fis Ebrill. Cafodd y rhieni gyfle i weld gwaith y plant a chael sgwrs gyda’r athrawon. Estyniad Newydd. Mae gwaith ar estyniad newydd yr ysgol wedi dechrau. Mi fydd y gwaith yn parhau am flwyddyn. Yr adeilad yma fydd cartref newydd yr uned Meithrin/Derbyn o ganlyniad i’r hen ysgol yn cau fis Hydref ddiwethaf.
Ebrill Wythnos Gwyddoniaeth Ar y 11eg o Fawrth aeth blwyddyn 5 a 6 i Iger ger Penrhyncoch er mwyn dathlu ‘Wythnos Gwyddoniaeth’. Profwyd nifer o weithgareddau diddorol iawn gan y plant yn ystod y bore a hwyluswyd y dysgu gan fod y tasgau yn ymarferol ac yn weladwy iawn.
Chwaraeon. Ar y 14eg o Fawrth bu tîm pel-droed a thîm pel-rwyd yr ysgol yn brwydro yng ngystadleuaethau cylch ysgolion Aberystwyth; y naill ar gaeau Blaendolau ar llall yng Nhanolfan Hamdden Plascrug. Llwyddodd y bechgyn i gyrraedd y rownd gyn derfynol – ymdrech dda; ond llwyddodd y merched i guro pawb, ac yn hyn o beth, ennill y darian a’r gystadleuaeth-Campus!
Cafwyd llwyddiant pellach ar y 18fed o Fawrth wrth i dîm rygbi’r ysgol frwydro ym mhencampwriaeth rygbi’r Urdd i holl ysgolion Ceredigion. Llwyddodd y bechgyn i guro Ysgol Brynsaron 20-5; Castell Newydd Emlyn 15-0; Llambed 20-5; Llandysul 15-5 ac Ysgol Plascrug 20-5. O ganlyniad i hyn, mi fydd y bechgyn yn un o ddau dîm fydd yn cynrychioli Ceredigion yng nghystadleuaeth cenedlaethol Yr Urdd ar faes Y Strade, Llanelli ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Fai; pob hwyl iddynt! Cyngerdd. Er mwyn codi arian ar gyfer Eisteddfod 2010; cynhaliwyd cyngerdd yn neuadd y pentref ar Nos Fercher y 19eg o Fawrth. Cafwyd perfformiadau graenus gan blant ysgolion Penglais a Phenweddig a bu Rhydypennau yn perfformio’r eitemau a lwyddodd i ennill Eisteddfod Gylch Yr Urdd eleni. Cafwyd noson lwyddiannus iawn. Ysgol Iach. Mae’r ysgol yn aelod o gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ac yr ydym newydd ennill statws Cyfnod Tri-un or ysgolion cyntaf yng Ngheredigion i wireddu hyn. Rydym hefyd yn 'Ysgol Eco'; mae'r llwyddiant diweddar yma yn cydnabod gwaith di-flino'r staff a'r plant i ailgylchu, i bwysleisio agweddau gwyrdd ac i ofalu am yr amgylchedd. Mi fydd baner 'Ysgol Eco' yn ymddangos ar dir yr ysgol i gadarnhau yr orchest hon. Mae Masnach Deg yn agwedd bwysig iawn ym mywyd cyffredinol yr ysgol; heblaw am siop wythnosol sy'n gwerthu cynnyrch Masnach Deg, 'rydym hefyd yn trefnu gwasanaethau, gwersi a chyflwyniadau cyffredinol i bwysleisio ac i godi ymwybyddiaeth a phwysigrwydd yr elfen hon i bawb sy'n gysylltiedig a'r ysgol.
Mawrth Eisteddfod Ysgol.Yn ddiweddar, cynhaliwyd Yr Eisteddfod Ysgol, er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi. Ar ôl wythnosau o ymarfer a chwblhau gwaith penodol ar gyfer cystadleuthau dosbarth, daeth yr amser i feirniadu ymdrechion y plant. Roedd hi’n ofynnol i bob plentyn i adrodd neu i ganu neu i chwarae darn offerynnol. Yn ychwanegol i hyn bu’r beirniaid yn dewis y goreuon o’r cystadleuthau dosbarth. Roedd pob tasg yn y gystadleuaeth yn ymwneud â Chymru; bu blwyddyn 1 yn gwneud bathodynnau; blwyddyn 2 yn creu baneri, blwyddyn 3 a 4 yn ysgrifennu llawysgrifen a blwyddyn 5 a 6 yn cyfansoddi cerdd ar gyfer y prif gystadleuaeth, sef ennill Y Gadair ar y thema – ‘Cymru’. Eleni, ar ganiad y corn, Dafydd Siôn Rees o flwyddyn 6 a gododd o ganol y gynulleidfa i gipio’r Gadair. Llongyfarchiadau mawr i Dafydd. Dyma’r gerdd fuddigol:
Cymru Cymru fach, gwlad y gân, Bryn a Tom a Shirley; Katherine Jenkins, Rhydian sydd, Yn enwog am eu canu.
Pasio’r bêl mae Peel a Shane, Arwyr o gae’r Mileniwm; Ond mae yna un pencampwr byd, Y bocsiwr Joe Calzage.
O gopa’r Wyddfa enwog tal I lawr i’r llynnoedd glas, Y wlad brydferthaf yn y byd A phobl da heb atgas.
Mawrth y cyntaf; Dydd Gwyl Ddewi, Eisteddfod i ddathlu ein ffydd; Cawl o gennin, blodau melyn, Cadeirio mawreddog sydd.
Cymro ydw i a chymru ydym ni; O bawb yn y byd, Ni yw’r gorau i gyd; Llewyrch a Llwyddiant ‘dan un baner. Dafydd Sion Rees
Ac ar ôl cystadlu brwd drwy’r dydd, roedd pwyntiau’r 3 thŷ yn agos iawn; ond Eleri a gariodd y dydd yn y pen draw. Da iawn i bawb am ymdrechu mor galed i sicrhau Eisteddfod Ysgol lwyddiannus iawn eleni eto. Hoffa’r ysgol ddiolch i’r beirniaid profiadol am eu doethineb yn ystod y dydd, sef Mrs Ann Evans, Mrs Kathleen Evans a Mrs Luned Richards. Gala Nofio. Ar y 21ain o Chwefror cynhaliwyd rownd derfynol gala nofio ysgolion Aberystwyth. Nofiodd y plant yn dda iawn a llwyddodd nifer o’r plant i orffen yn y 3 cyntaf. Llongyfarchiadau i’r canlynol; Mirain Dafydd bl 3 (rhydd – 2il), James Albrighton bl 5 (cefn – 2ail), Lucy Ankin bl 4 (cefn-1af), Rachel Howard bl 5 (broga-3ydd), cyfnewid cymysg merched bl 3 a 4, (Lucy Ankin, Ffion Wyn, Mirain Dafydd a Rose Gillison-1af), cyfnewid cymysg merched bl 5 (Bethan Henley, Rachel Howard, Cara Lucas, Elizabeth Jackson – 2ail), cyfnewid rhydd merched blwyddyn 3 a 4 (Lucy Ankin, Ffion Wyn, Mirain Dafydd a Rose Gillison-3ydd) cyfnewid rhydd merched bl 5 ( Bethan Henley, Rachel Howard, Cara Lucas, Elizabeth Jackson – 1af) cyfnewid rhydd bechgyn bl 6 (Sam Hesden, Tomos Williams, Paul Keegan, Iestyn Evans – 2ail) Ardderchog! Beicio. Mae plant blwyddyn 6 yn brysur yn gwella a datblygu ei sgiliau ffordd fawr ar ei beiciau. Maent yn paratoi am y prawf terfynol er mwyn ennill tystysgrif diogelwch ar y ffordd fawr. Hoffa’r ysgol ddiolch i Mr Malcolm Charlton am yr hyfforddiant. Capel Y Garn. Ar y 5ed o Fawrth, yn dilyn gwahoddiad gan chwiorydd Capel Y Garn, trefnwyd cyngerdd byr yn Y Festri. Penderfynwyd cynnwys enillwyr eitemau Eisteddfod Gylch yr Urdd eleni. Cafwyd croeso cynnes gan Mrs Ann Jones a’r chwiorydd yn Y Festri. Perfformiwyd ystod eang o eitemau cerddorol i ddiddanu’r gynulleidfa eiddgar; o unawdau offerynnol i bartïon unsain a cherdd dant. Yn dilyn y perfformiad, diolchodd Mrs Bethan Jones y plant a gwobrwywyd hwy â thê blasus tu hwnt. Hoffa’r ysgol ddiolch i’r chwiorydd am y croeso cynnes, y tê blasus a’r siec hael ar gyfer gronfa’r ysgol. Twmpath. Ar y 28ain o Chwefror, trefnwyd Twmpath Dawns yn Neuadd y Pentref i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi. Cafwyd gwledd o ddawnsio gwerin, digon o fwyd a diod. Diolch i Erwyd Howells, Brian Jones a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am drefnu noson wych.
Lucy Ankin Llongyfarchiadau i Lucy Ankin am lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yng ngala rhyngwladol yr urdd yn Abertawe yn ddiweddar- perfformiad campus!
Diwrnod Y Llyfr. I ddathlu Diwrnod Y Llyfr (6/3/08) fe ddaeth yr awdur enwog Elgan Philip Davies i’r ysgol. Bu’n brysur drwy’r dydd yn cyflwyno, darllen a thrafod amryw o’i lyfrau a chodi ymwybyddiaeth o’r boddhâd y cheir o ddarllen ac ysgrifennu storïau. Hoffa’r ysgol ddiolch i Elgan am ei frwdfrydedd a’i arbennigrwydd yn y maes. Yr Eisteddfod Gylch. Da iawn i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Gylch Yr Urdd yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i’r 8 eitem a ddaeth yn gyntaf. Dyma ganlyniadau’r Eisteddfod Sir ym Mhontrhydfendigaid. CYNTAF Dawnsio Disgo – Erica Busson, Tara Harwood, Hannah Lee Bowen, Rachel Howard, Kelly Harper, Cara Lucas, Misha Harwood, Lucy Evans, Lorna Harper, Chloe Clark.
Ensemble Offerynnol - Ffion Evans, Iestyn Evans, Gwern Penri, Elis Lewis, Dafydd Sion Rees.
Unawd Pres - Dafydd Sion Rees.
Deuawd –Gwern Penri a Katherine Lewis.
Parti Cerdd Dant – Beca Davies, Tara Harwood, Jake Albrighton, Hannah Lee Bowen, Laurie Albrighton, Elizabeth Jackson, Katherine Lewis, Sion Clifton, Cerys Harvey, Gwern Penri, Dafydd Sion Rees.
AIL Parti Unsain - Gwern Penri, Dafydd Sion Rees, Kathryn Lewis, Bethan Henley, Tara Harwood, Hannah Lee Bowen, Jake Albrighton, Laurie Albrighton, Elizabeth Jackson, Cerys Harvey. Unawd Llinynnol – Tomos Gillison. Unawd – Gwern Penri. Chwefror Ymweliadau. Yn ystod y flwyddyn newydd, fe ddychwelodd Rhydian Phillips, mab Alun a Louisa, i Gymru o Awstralia. Ar y 16eg o Ionawr, fe ddaeth Rhydian, ei gariad Megan a Louisa i flwyddyn 5 i adrodd ychydig o hanes Awstralia i’r plant. Dyma gofnod Tomos Gillison o’r ymweliad.
YMWELIAD O AWSTRALIA Ar ddydd Mercher y 16eg o Ionawr daeth ymwelydd arbennig o’r enw Megan Dubois o Cleve, de Awstralia i’n gweld ni ym Mlwyddyn 5. Roeddwn ni wedi gofyn cwestiynau iddi hi am ei gwaith a’i chartref. Roedd hi’n gweithio i gwmni oedd yn gwneud papur newydd bach yn Cleve. Roedd hi wedi dweud rhai geiriau mae pobl Awstralia yn ei ddefnyddio e.e.chips=creision, hot chips=chips.Roedd hi’n ddiwrnod diddorol iawn! Thomas Gillison
Ar y 24ain o Ionawr fe aeth blwyddyn 3 a 4 i Gaerdydd i ymweld â’r adeiladau enwog yn Sain Ffagan. Ein thema ni y tymor hwn yw ‘Cartrefi;’ felly roedd yr ymweliad i’r amgueddfa yn le delfrydol i’r plant arsylwi ar yr hen gartrefi hanesyddol. Cafodd pawb ddiwrnod arbennig o dda. Ar y 30ain o Ionawr, fe ddaeth Leigh Denyer i’r ysgol fel rhan o wasanaeth addysg menter Comisiwn y Coedwigaeth. Cyflwynodd amryw o wybodaeth pwysig i’r plant ar goed ac anifeiliaid sy’n byw yn y goedwig. Fe aeth ymlaen i drefnu nifer o weithgareddau difyr i holl blant yr ysgol ar agweddau o goedwigaeth.
Yn ystod yr un diwrnod bu blwyddyn 5 a 6 yn ffodus iawn i weld tîm rygbi’r Sgarlets yn ymarfer yng nghlwb Rygbi Aberystwyth. Cafodd y plant lofnod amryw o’r chwaraewyr ac ar ddiwedd y sesiwn cafodd pob plentyn becyn unigol yn cynnwys tocyn i gêm y Sgarlets yn erbyn Glasgow.
Ar y 6ed o Chwefror fe aeth y Dosbarth Derbyn i’r goedwig yn Nhregerddan. Roeddynt yn gobeithio gweld bywyd gwyllt yr ardal yn byw yn eu cynefinoedd naturiol. Trwy lwc, roedd hi’n ddiwrnod braf iawn i fynd am dro i’r goedwig ac fe gafodd pawb amser da ond blinedig braidd. Tra bo’r dosbarth derbyn yn mwynhau’r goedwig, fe ddaeth Julie Bromilow o’r ganolfan Amgen, Machynlleth i flwyddyn 6. Bu hi yno drwy’r dydd yn codi ymwybyddiaeth y plant o bwysigrwydd yr ‘ôl droed carbon’ ac o broblemau amgylcheddol ein byd cyfoes ni. Hoffa’r ysgol ddiolch i Julie am ei chyflwyniadau a’i gweithgareddau difyr.
Chwaraeon Bu’r tîm pel-rwyd yn cystadlu yn ddiweddar ym mhencampwriaeth Yr Urdd, cylch Aberystwyth yn y ganolfan hamdden ym Mhlascrug. Enillodd y merched sawl gêm ond collodd y tîm yn y rownd gyn-derfynol. Perfformiad ardderchog. Cynhaliwyd gala nofio cylch Aberystwyth i’r ysgolion mawr ar y 4ydd o Chwefror. Oherwydd perfformiadau gwych nifer helaeth o blant blwyddyn 3 i flwyddyn 6, mi fyddant nawr yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ar y 21ain o Chwefror. Diwrnod ar gyfer newid Ar y 1af o Chwefror, cynhaliwyd ‘Diwrnod ar Gyfer Newid’er mwyn codi arian i Unicef. Fe ddaeth y plant i’r ysgol mewn dillad dewisol ac yn sgîl hyn, codwyd £100.00 i wlad Gambia yng nghyfandir Affrica. Cwpan Coffa. Mae nifer ohonoch wedi cysylltu â’r ysgol yn ddiweddar yn sgîl gwerthiant ein Cwpan Coffa. Yn anffodus, nid yw’r ysgol yn derbyn rhagor o archebion. Felly, os am dderbyn ein Cwpan Coffa, cysylltwch â Malcolm yng nghrochendy Felingwm ar 01267290489.
Ionawr Gwasanaeth Nadolig. Ar yr 13eg o Ragfyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig yr ysgol. Eleni aethpwyd allan i’r gymdeithas a chynnal y perfformiad yng Nghapel Y Garn. Thema’r noson oedd stor’r geni a chafwyd gwledd o ganu, actio a llefaru. Yr oedd hi’n braf gweld Y Garn yn orlawn a’r gynulleidfa i gyd yn datgan eu gwerthfawrogiad ar ddiwedd y perfformiad. Hoffa’r ysgol ddiolch i’r gofalwr ac aelodau blaenllaw’r Garn am eu cydweithrediad a’u cyngor yn ystod yr ymarferiadau a’r perfformiad. Cafwyd cyngerdd ardderchog hefyd gan yr uned feithrin ar y 12ed a’r 13eg o Ragfyr yn neuadd yr ysgol. O ganlyniad i’r perfformiadau yma, codwyd £900 tuag at gronfa’r ysgol. Yn unol â hyn fe drefnwyd casgliad tuag at ein elusen eleni, sef Oxfam; ac o ganlyniad i hyn, fe gasglwyd £200. Diolch i bawb am eu cyfraniadau hael.
Partion. Bu plant yr ysgol yn ffodus iawn yn ddiweddar, gan eu bod wedi cael y cyfle i fwynhau dau barti nadolig dau ddiwrnod o’r bron! Ar y 18ed o Ragfyr, trefnwyd parti nadolig gan bwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Roedd y parti yn agored i bawb yn yr ysgol a chynhaliwyd y dathliadau yn neuadd yr ysgol. Hoffa’r ysgol ddiolch i aelodau’r pwyllgor am drefnu’r noson ac hefyd i Mr Busson am ei ddisgo hynod o dda. Hoffa’r pwyllgor ddiolch i noddwr y noson sef Clwb Pel-droed Bow Street. Trannoeth, cynhaliwyd parti’r Urdd yn yr ysgol i aelodau’r Urdd o flwyddyn 3 i flwyddyn 6. Yn ystod y miri, cafodd y plant gyfle i fwynhau gwledd o fwyd a chystadleuaeth dawnsio disgo.
Cinio Nadolig. Ar yr 8ed o Ragfyr cynhaliwyd cinio nadolig yr henoed yn yr ysgol. Bu Mrs Meinir Fleming a’i staff yn brysur iawn yn paratoi’r wledd i 100 o bobl eiddgar iawn. Cytunodd pawb mai dyma’r cinio gorau eto! Diolch yn fawr i staff y gegin ac i Bwyllgor yr Henoed am drefnu’r achlysur mor effeithiol. Cynhaliwyd cinio nadolig i'r plant a'r staff ar yr ugeinfed o Ragfyr. Eto, diolch i Mrs Meinir Fleming a staff y gegin am baratoi gwledd hyfryd i bawb.
Ymweliadau. Mae’r plant wedi mwynhau nifer o weithgareddau difyr iawn yn ddiweddar; ar y 10ed o Ragfyr, daeth Cwmni Arad Goch i ddiddanu blwyddyn 5 a 6. Enw’r perfformiad oedd ‘Llyncu Geiriau’. Pwrpas y perfformiad oedd codi ymwybydiaeth y plant o bwysigrwydd adnabod geiriau ac o fwynhau darllen er mwyn pleser.
Ar y 17eg o Ragfyr fe aeth blwyddyn 1 i 6 a’r dosbarth meithrin i’r sinema i fwynhau y ffilm, ‘Santa Clause’. Yn ychwanegol i hyn, fe aeth hanner cant o blant sy’n derbyn gwersi offerynnol yn yr ysgol, i’r Neuadd Fawr i fwynhau cyngerdd yn cynnwys Côr a Cherddorfa Ieuenctid y Sir. Fe ddaeth P.C. Gwyndaf Lloyd i’r ysgol ar yr 20ed o Ragfyr er mwyn sicrhau fod holl blant yr ysgol yn ddiogel dros gyfnod y Nadolig. Pwysleisiodd nifer o agweddau pwysig a chodi ymwybyddiaeth y plant o’r peryglon sydd o’n cwmpas. Hoffa’r ysgol ddiolch i P.C. Lloyd am ei gyngor hanfodol. |
||||||||||||||
Tachwedd
|






Trawsgwlad.
Gweithgareddau ac Ymweliadau
Ar 16eg o Hydref fe aeth blwyddyn 2 i Amgueddfa’r dref ar gyfer ‘Y Dynfa Fawr’. Trefnwyd nifer o weithgareddau amrywiol i’r plant yn cynnwys arsylwi ar degannau drwy’r oesoedd. Diddorol iawn.

Cynhaliwyd Noson Calan Gaeaf Adran Yr Urdd yn yr ysgol yn ddiweddar. Cafodd aelodau’r Urdd gyfle i wisgo gwisg ffansi a mwynhau ychydig o hwyl a sbri’r noson arbennig hon. Cafodd nifer o blant wobrau hael a chytunodd pawb fod y noson wedi bod yn un ddifyr iawn.


Ar y degfed o Hydref, cafodd plant blwyddyn 6 gyfle i helpu’r heddlu. Dan ofal P.C. Hefin Jones a P.C Gwyndaf Lloyd bu’r plant yn defnyddio camera cyflymdra er mwyn codi ymwybyddiaeth modurwyr a oedd yn teithio’n anghyfreithlon drwy’r pentref. I’r sawl a chafodd eu dal, bu’r plant yn holi iddynt gyfiawnhau y gyrru gwael.

Gan fod yr ysgol dop bellach wedi cau; Mae’r staff yn unol â phwyllgor rhieni athrawon yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn cynllunio Cwpan Coffa i’r hen ysgol. Mi fydd y cwpan yn mynd ar werth o fis Tachwedd ymlaen. Y pris fydd £7.

Deugain Mlynedd o Addysg Feithrin
Pan benodwyd Eddie Jones yn brifathro Ysgol Gynradd Rhydypennau yn 1966 roedd yno hanner cant o ddisgyblion a dau athro.
Yn 1967 agorwyd Ysgol Feithrin wirfoddol yn y pentre i blant rhwng 3 a 4 oed a hynny cyn bod sôn am sefydlu’r Mudiad Ysgolion Meithrin. Roedd y plant yn cwrdd yn yr ystafell fechan, ystafell yr athrawon, rhwng 9 ac 11eg ar fore Mawrth, Mercher ac Iau yng ngofal Bethan Jones gyda chymorth Gwerfyl Morgan.
Wrth i niferoedd y plant cynradd gynyddu’n gyflym gorfu i’r Ysgol Feithrin symud allan i Neuadd Rhydypennau ac yna yn ddiweddarach i Ysgoldy’r Eglwys yn Llandre. Pan gododd rhif y plant cynradd i dros ddau gant, rhaid oedd cael ysgol gynradd newydd yn 1973, a bu cryn frwydro i gadw’r hen ysgol a’i haddasu yn Uned Feithrin.
Ar achlysur dathlu canmlwyddiant yr hen ysgol ym Mawrth 1976 gosodwyd plac ar fur yr ysgol gan Bwyllgor Dathlu’r Canmlwyddiant. Arno mae pedair llinell o gywydd gan Ifor Davies, Garth Lwyfain.
Hen le braf ar ael y bryn,
Hen le antur pob plentyn,
Erys fel plas urddasol
Ar waun deg rhwng bryn a dôl.

Am ddeugain mlynedd bu’r Cylch Meithrin a’r Uned Feithrin yn gaer o gymreictod a’r iaith Gymraeg yn cael ei pharchu a’i gwarchod. Mae’n dyled yn fawr i’r holl athrawon a’r cynorthwywyr a llu o weithwyr gwirfoddol fu’n gwasanaethu yno.
Mr Eddie Jones