Newyddion
Ebrill
Llyfrgell Genedlaethol.
Ar hyn o bryd mae arddangosfa arbennig iawn yn y Llyfrgell Genedlaethol o'r enw 'Dilyn Y Fflam'; sef hanes, darluniau a ffilm am y Gemau Olympaidd. Cafodd blwyddyn 4, 5 a 6 gyfle i ymweld â'r arddangosfa yn ddiweddar gan fwynhau cyflwyniadau ffeithiol am y Gemau trwy't oesoedd. Buont hefyd yn cwblhau gweithgaredd ymchwilio a mwynhau ffilm unigryw am hanes y Cymry a lwyddodd i gynrychioli Prydain yn y gemau. Diolch i Rhodri ac Owen am fore difyr a diddorol iawn.




Penwythnos Llangrannog








Beicio.
Mae plant blwyddyn 6 yn brysur yn gwella a datblygu ei sgiliau ffordd fawr ar ei beiciau. Maent yn paratoi ar gyfer y prawf terfynol er mwyn ennill tystysgrif diogelwch ar y ffordd fawr.
Canlyniad Ebrill
:
1af-£25-Nia Gwenllian Clubb-Yr Ysgoldy.
2il-£15-Angharad Lewis-11 Broncynfelin.
3ydd-£10-David Evans, Hendre, Maes Henllan.
Mawrth
Eisteddfod Yr Urdd.
Da iawn i bawb a fu’n perfformio yn y neuadd fawr ac ym Mhonrhydfendigaid yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr a phob lwc i’r parti Cerdd Dant a lwyddodd i ennill a sicrhau lle haeddiannol yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau fis Mai.Hoffa’r ysgol ddiolch i Miss Eleri Roberts a Mrs Helen Williams am eu gwaith caled yn ystod yr ymarferiadau.

Pêl rwyd a Phêl-droed.
Ar y o 24ain o Fawrth cynhaliwyd cystadleuaeth pêl-rwyd a phêl-droed cylch Aberystwyth. Chwaraeodd bechgyn y tîm pêl-droed yn dda iawn, ac er iddynt lwyddo i ennill dwy gêm allan o dair, methu wnaethant o drwch blewyn i gyrraedd y rownd gyn derfynol.
Llwyddodd merched y tîm pel-rwyd i drechu nifer o ysgolion y cylch a chyrraedd y rownd derfynol. Ond, yn anffodus, colli wnaethant mewn ffeinal agos iawn. Ymdrech ardderchog gan y ddau dîm.

Pel-droed Yr Urdd
Bu tîm pêl-droed bechgyn a merched yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Yr Urdd ar gaeau Blaendolau. Cystadleuaeth rhwng holl ysgolion Ceredigion oedd hon; ac yr oedd ansawdd y pêl-droed o’r safon uchaf.
Ar ddiwedd y dydd ac ar ôl ennill pob gêm, llwyddodd y merched i gyrraedd y rownd derfynol; ond colli fu’r hanes yno’n anffodus. Hen dro!
Chwaraeodd y bechgyn yn dda iawn hefyd mewn grŵp cystadleuol iawn. Llongyfarchiadau mawr i aelodau’r ddau dîm am eu hymdrechion ardderchog.
 
 
Wythnos Gwyddoniaeth
Er mwyn dathlu wythnos gwyddoniaeth fe aeth blwyddyn 4,5 a 6 i'r Brifysgol i fwynhau llwyth o dasgau a gwithgareddau yn ymwneud gyda 'Ein Byd Yn Symud', sef thema'r wyl eleni.





Eisteddfod Ysgol.
Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi a chynnal traddodiadau Cymreig, cynhaliwyd Eisteddfod yr Ysgol. Ar ôl wythnosau o ymarfer a chwblhau gwaith penodol ar gyfer cystadlaethau dosbarth, daeth yr amser i feirniadu ymdrechion y plant. Roedd hi’n ofynnol i bob unigolyn adrodd neu ganu neu chwarae darn offerynnol. Yn ychwanegol i hyn bu’r beirniaid yn dewis y goreuon o’r cystadlaethau dosbarth. Roedd pob tasg yn y gystadleuaeth yn ymwneud â Chymru. Ac ar gyfer y prif gystadleuaeth sef ennill ‘Y Gadair’, bu blwyddyn 5 a 6 yn cyfansoddi cerddi ar y thema‘Fy Arwr i’. Roedd ansawdd y cerddi yn arbennig o dda eleni, ond, ar ganiad y corn, Shaun Jones o flwyddyn 6 a gododd o ganol y gynulleidfa i gipio’r Gadair. Llongyfarchiadau mawr i Shaun.
Dyma’r gerdd fuddugol ar un o chwaraewyr pêl-droed Abertawe:-
‘Fy Arwr i’
Y dorf yn galw amdano ymhen yr awr,
gan fod y ‘Swans’ ddwy gôl i lawr.
Pawb yn tawelu.
Rhai yn diflasu.
Oes unrhyw obaith nawr?
Rhaid ymlacio a pheidio danto;
daw fy arwr arno i wibio;
cic gornel wych,
i’r rhwyd yn syth;
fy arwr yn llwyddo i sgorio!
Parhau mae’r ‘Swans’ i bwyso.
Pasio, canolbwyntio a ffugio.
Gyda thacl arwrol
a sgil anfarwol,
mae fy arwr eto’n rhwydo!
 munud i fynd dyma’r bychan
yn rhedeg a gwibio heibio’r cyfan;
ergyd fel taran,
cipio Y Cwpan!
Fy arwr, y gwyrthiol, Joe Allen!
Tecwyn y Tractor
(Shaun Jones)

Ac ar ôl cystadlu brwd drwy’r dydd, roedd pwyntiau’r 3 thŷ yn agos iawn; ond Ystwyth a gariodd y dydd yn y pen draw. Da iawn i bawb am ymdrechu mor galed i sicrhau Eisteddfod Ysgol lwyddiannus iawn eleni eto. Hoffa’r ysgol ddiolch i’r beirniaid profiadol am eu doethineb yn ystod y dydd, sef Mrs Ann Evans a Mrs Luned Richards.




Dylunio’r ‘Gadair’
Yn ôl y drefn cynhaliwyd cystadleuaeth ychwanegol er mwyn dylunio cadair fach fel gwobr i enillydd ‘Y Gadair’. Eleni cyfuniad o ddyluniadau Abbey Sedgwick a Teleri Morgan oedd yn fuddugol. Diolch i Mr Carwyn Lloyd Jones am greu dyluniad mor effeithiol.

Twmpath.
Ar Fawrth y cyntaf, trefnwyd Twmpath yn Neuadd y Pentref i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Cafwyd gwledd o ddawnsio gwerin, gwobrau, gwisg ffansi, raffl, digon o fwyd a diod. Diolch i Erwyd Howells, Bryan Jones a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am drefnu noson wych a chodi swm da o arian at goffre’r ysgol.



Clwb Cant
Yn ystod y Twmpath cyhoeddwyd enillwyr Fis Mawrth. Dyma’r canlyniad
1af - £25 Andrea Whitney- 63, Bryn Castell.
2il - £15 Anna van Son-Swn yr Wylan, Borth.
3ydd-£10-Jordan a Benjamin Jones-Maes Awelon, Pen y Garn.
Diwrnod y Llyfr.
Ar Ddiwrnod y Llyfr, daeth Angharad o Siop Inc i’r ysgol er mwyn rhoi cyfle i’r plant weld, darllen a phrynu amrywiaeth o lyfrau. Cafodd pob plentyn docyn er mwyn derbyn gostyngiad ym mhris unrhyw lyfr a brynwyd. Hoffa’r ysgol ddioch i Angharad am ei pharodrwydd i ymuno â ni.

Chwefror
Diwrnod Crempog
Blwyddyn un yn brysur yn coginio a mwynhau!


Llyfrgell Genedlaethol.
Cafodd blwyddyn 4, 5 a 6 y fraint o ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar. Yn gyntaf cafodd y plant gyfle i fwynhau taith o gwmpas yr adeilad er mwyn dysgu am prif bwrpas a systemau amrywiol y llyfrgell. Yna, fel rhan o Arddangosfa Hamdden arbennig sydd yn yr oriel ar hyn o bryd, bu'r plant yn mwynhau hen luniau a ffotograffiau a chanfod atebion amdanynt mewn gweithgareddau ymchwiliol. Diolch i Rhodri ac Owen am fore difyr a diddorol.




Ionawr
Arad Goch.
Cafwyd ymweliad gan Gwmni Arad Goch ar yr 20fed o Ionawr. Y testun y tro hwn oedd cynhyrchiad o’r enw ‘O Gam i Gam’; cynhyrchiad wedi ei greu yn arbennig ar gyfer plant y cyfnod sylfaen. Yn ystod y perfformiad bu’r ddau gymeriad yn cosi dychymyg y gynulleidfa ifanc, a’u annog i holi, meddwl, darganfod, rhesymu a chwilio mewn perfformiad oedd yn cyfuno nifer o elfennau hwyliog a chyffrous.
Fel arfer cafwyd perfformiadau proffesiynol a graenus iawn gan yr actorion.


‘Bingo’.
Ar yr 26ain o Ionawr, trefnodd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol noson ‘Bingo’ yn y neuadd. Cafwyd noson gymdeithasol dda iawn gyda llwyth o wobrau da a chacennau blasus. Yn ystod y difyrwch, codwyd swm sylweddol tuag at goffre’r ysgol.

Penblwydd Yr Urdd
Cynhaliwyd parti yn neuadd yr ysgol ar y 27ain o Ionawr er mwyn dathlu Penblwydd yr Urdd yn 90 oed

Adran yr Urdd
Mae gweithgareddau’r Adran yn parhau ar nosweithiau Mercher. Yn ddiweddar bu blynyddoedd 4, 5, a 6 yn mwynhau sgiliau syrcas dan ofal swyddog datblygu’r Urdd Rhydian Jenkins a chafodd blynyddoedd 1, 2 a 3 gyfle i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen dan ofal Miss Olwen Morus.

Chwaraeon
Yn ddiweddar bu’r tîm pel-rwyd yn cystadlu ym mhencampwriaeth Yr Urdd, cylch Aberystwyth yn y ganolfan hamdden ym Mhlascrug. Enillodd y merched sawl gêm ond collodd y tîm yn y rownd derfynol. Perfformiad ardderchog.
Cynhaliwyd gala nofio cylch Aberystwyth i’r ysgolion mawr ar y 26ain o Ionawr. Oherwydd perfformiadau gwych nifer helaeth o blant blwyddyn 3 i flwyddyn 6, aethant ymlaen i’r rownd derfynol ar y 2il o Chwefror.

Cynrychioli Ceredigion
Llongyfarchiadau mawr i Lewis Drakeley am gynrychioli Sir Ceredigion yng ngala nofio Cenedlaethol Yr Urdd ar yr 28ain o Ionawr. Teithiodd Lewis lawr i bwll nofio 50metr y brifddinas er mwyn cystadlu yn y rownd derfynol. Da iawn wir!

Hoci
Dyma ganlyniadau diweddar y ddau dîm hoci.
Rhydypennau A – 3; Ysgol Padarn Sant A-1.
Rhydypennau A – 1; Ysgol Llanilar A – 1.
Rhydypennau A – 5.; Ysgol Plascrug A – 1.
Rhydypennau B – 1; Ysgol Padarn Sant B – 1.
Rhydypennau B – 1; Ysgol Llanilar B – 0
Rhagfyr
Clwb Cant
Dyma ganlyniad Rhagfyr:-
- Siôn Ewart, Bow Street - £50
- Susan Davies, Llandre - £30
- Eileen Williams, Llangwyryfon- £20
Clwb Cant y Cant
Llongyfarchiadau i blant Clwb Cant y Cant; heb golli diwrnod yn ystod Tymor yr Hydref.

Ymweliad Diogelwch
Diolch i PC Hefin Jones am atgoffa a chodi ymwybyddiaeth y plant o bwysigrwydd diogelwch dros Y Nadolig.

Parti Nadolig yr ysgol

Parti Nadolig Cymdeithas Rhieni ac Athrawon


Perfformiadau'r Nadolig.
Perfformiodd plant y Meithrin a'r Derbyn Stori'r Geni ar fore'r 13eg a'r 14eg. Daeth dros gant o bobl i wylio perfformiad.


Mi fydd blwyddyn 1 i 6 yn perfformio Gwasanaeth Nadolig yng Nghapel y Garn ar y 15ed o Ragfyr am 7 yr hwyr.


Tachwedd
Gorchest!
Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol am ennill eu lle yng nghanolfan datblygu pel-droed cylch Aberystwyth; Jac Griffiths ac Owen Evans (dan 9 oed) ac Andrew Fielding a Shaun Jones (dan 12 oed). Pob hwyl iddynt.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Teleri Morgan am lwyddo i ennill cystadleuaeth yng nghylchgrawn Cip yn ystod yr hydref. Campus!

Gala’r Urdd
Da iawn pawb a fu’n nofio yng ngala’r Urdd ym mhwll nofio Plascrug yn ddiweddar. Gala i holl ysgolion Ceredigion oedd hon ac yr oedd safon y nofwyr yn ardderchog. Llongyfarchiadau mawr i Lewis Drakeley a lwyddodd i ennill Ras Cymysg Unigol i Fechgyn dan 12 oed. Mi fydd Lewis nawr yn cynrychioli’r Sir yng ngala cenedlaethol Yr Urdd lawr yn Y Brifddinas yn y flwyddyn newydd. Ardderchog!

Ffarwelio
Yn anffodus, ar ddiwedd Fis Tachwedd, bu’n rhaid ffarwelio â Miss Gemma Bell. Bu Gemma’n gweithio gyda Mrs Sue Davies yn y cylch meithrin ac hefyd ym mlwyddyn 2 gyda Miss Olwen Morrus fel rhan o’i hyfforddaint i fod yn Weithwraig Cynnal Dysgu. Hoffa’r ysgol ddiolch i Gemma am ei hymroddiad gyda’r plant a’r staff tra yn yr ysgol a phob hwyl iddi yn y dyfodol.

Chwaraeon
Mae cystadleuaeth pel-droed a phel-rwyd rhyng-ysgolion yn parhau ar b’nawn Gwener. Yr ymwelwyr yn ddiweddar oedd Ysgol Plascrug. Yn anffodus, oherwydd y tywydd methwyd â chyflawni gêm bel-rwyd ond fe gafwyd ddwy gêm bel-droed. Dyma’r canlyniadau:-
Rhydypennau A 4 – Plascrug A 4
( Owen Evans a sgoriodd y goliau)
Rhydypennau B 4 – Plascrug B 1
( Rhys Evans 3 a Griff Lewis a sgoriodd y goliau.
Mae'r ddau dim hoci yn cael tymor boddhaol eleni. Dyma canlyniadau:-
Rhydypennau A 7 Plascrug A 0
Rhydypennau B 1 Plascrug B 2
Rhydypennau A 4 Ysgol Gymraeg A 2
Rhydypennau B 2 Ysgol Gymraeg B 2
Rhydypennau A 2 Penrhyncoch A 1
Rhydypennau B 2 Penrhyncoch B 4
Talebau Morrisons
Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n casglu talebau Morrisons i'r ysgol dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi bod yn brysur yn cyfri pob un ac yr ydym wedi derbyn dros 12,000 o dalebau. Rydym nawr yn y broses o drafod a phenderfynu beth i brynu; cewch wybod cyn hir.

Plant Mewn Angen
Roedd hi’n ddiwrnod Plant mewn angen ar y 18ed o Dachwedd. Bu’r Cyngor Ysgol yn brysur yn trefnu nifer o weithgareddau difyr er mwyn codi arian i’r elusen. Ar ddiwedd y dydd casglwyd £250. Ardderchog.


Dyfeisio a Darganfod
Ar y 3ydd a’r 4ydd o Dachwedd cafwyd ymweliad arall gan Mr Eifion Collins, XL Wales. Cafodd pob plentyn o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 gyfleuon i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. Ac, fel arfer, roedd gweithgareddau Mr Collins yn arbennig o dda.



Mynd am Dro
Fe aeth y dosbarth Meithrin a’r Derbyn ar daith yn y bws yn ddiweddar. Pwrpas y daith oedd cyrraedd y goedwig wrth ymyl Gogerddan. Wrth fynd am dro drwy'r coed, gwelwyd nifer o bethau diddorol iawn yn cynnwys bywyd gwyllt a phlanhigion amrywiol. Cafwyd cyfle hefyd i arsylwi ar yr holl ddail sydd wedi disgyn o’r coed yn ystod yr hydref a bu’r plant wrthi’n ddiwyd yn cymharu eu siapiau a’u lliwiau.

Adran yr Urdd.
Cynhaliwyd Noson Calan Gaeaf Adran Yr Urdd yn yr ysgol yn ddiweddar. Cafodd aelodau’r Urdd gyfle i wisgo gwisg ffansi a mwynhau ychydig o hwyl a sbri’r noson arbennig hon. Cafodd nifer o blant wobrau hael a chytunodd pawb fod y noson wedi bod yn un ddifyr iawn.


Yr Wythnos ganlynol bu'r plant yn addurno a dylunio gyda Mrs Bonsall.

Hydref
Diolchgarwch
Ar ddydd Mercher yr 19eg o Hydref, cynhaliwyd cyngerdd Diolchgarwch blynyddol yr ysgol. Yn dilyn y traddodiad, rhoddwyd groeso i henoed yr ardal a thrigolion y gymuned. Cafwyd gwledd o ganu a llefaru graenus o flynyddoedd 1 i 6 ac yn dilyn y perfformiad, cafodd yr henoed gyfle i sgwrsio am y perfformiad dros wledd arall, sef te hynod o flasus wedi ei baratoi gan staff y gegin. Yn ystod y prynhawn cyflwynwyd ein casgliad Diolchgarwch i Lisa Hughes, cynrychiolydd ein elusen eleni sef 'Ambiwlans Awyr Cymru'. Casglwyd dros ddau gant o bunnoedd. Diolch yn fawr iawn i bawb.


Trawsgwlad.
Cynhaliwyd Trawsgwlad Cylch Aberystwyth ar Ddydd Gwener 7ed o Hydref ar gaeau’r Ficerdi. Cynrychiolwyd yr ysgol gan 60 o blant blynyddoedd 3 i 6. Llwyddodd pob un ohonynt i gyflawni’r cwrs a chafwyd perfformiadau arbennig gan y canlynol gan iddynt orffen yn y deg cyntaf:-
Lydia Powell bl 3 (4ydd); Griff Lewis bl 3 (2il); Jamie Whitney bl 3 (9ed); Sian Duckett bl 4 (6ed); Jac Griffiths bl 4 (9ed) Tomos Lyons bl 4 (10ed); Catrin Manley bl 5 (5ed); Megan Jackson bl 6 (4ydd). Mi fyddant nawr yn rhedeg yn erbyn y goreuon o Geredigion yn y flwyddyn newydd. Pob Hwyl iddynt!


Arad Goch.
Cafwyd ymweliad arall gan Gwmni Arad Goch yn ddiweddar. Y testun y tro hwn oedd cynhyrchiad o’r enw ‘Ar eich Marciau'. Perfformiad newydd sbon oedd hon am ferch yn rhedeg, rasio, ymdrechu a phoeni am fethu. Stori am hunan-hyder, am ddyfalbarhad, gorchest a llwyddiant. Fel arfer cafwyd perfformiad proffesiynol a graenus iawn gan y cwmni.


Medi
Etholiadau.
Bellach mae’r ysgol wedi cadarnhau, trwy bleidlais aelodau dau bwyllgor pwysig iawn; ‘Y Cyngor Ysgol’ a’r ‘Pwyllgor Eco’. Mae aelodau’r ddau gyngor yn cwrdd yn reolaidd er mwyn gwneud penderfyniadau pwysig a sicrhau llais swyddogol i weddill y disgyblion mewn amryw o agweddau ym mywyd yr ysgol.

Adran yr Urdd.
Mae Adran yr Urdd wedi ail ddechrau bellach. Treuliwyd y noson gyntaf yn mwynhau sesiwn chwaraeon dan ofal Bryn Evans, Campau’r Ddraig. Mi fydd y gweithgareddau difyr yn parhau yn ystod gweddill y flwyddyn.


Sioe Rhydypennau.
Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol am eu gwaith arbennig yn adran y plant:-
Blwyddyn 1-1af-Polina Larkin; 2il-Oliver Salvoni; 3ydd-Elin Gore. Blwyddyn 2-1af-Martha Rushton; 2il-Megan Glover; 3ydd-Jack Gratton. Blwyddyn 3- 1af-Lydia Powell; 2il-Seth Lawton; 3ydd-Ella Jones. Blwyddyn 4-1af-Rhys Tanat; 2il-Tomos Lyons; 3ydd- Owen Huw. Blwyddyn 5-1af-Sophie Jones; 2il-Mali Bailey; 3ydd-Safiya Jones. Blwyddyn 6-1af- Daniel Rees; 2il-Shaun Jones; 3ydd-Andrew Fielding.



'Bingo!'
Ar yr 22ain o Fedi, er mwyn croesawu’r tymor newydd, trefnodd Y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon noson ‘Bingo’ yn neuadd yr ysgol. Cafwyd noson gymdeithasol dda iawn gyda llwyth o wobrau da a chacennau blasus. Codwyd £145.00 yn ystod y difyrwch.

Ymweliadau.
Daeth seren o’r byd rygbi i’n plith yn ddiweddar; neb llai na Dafydd Jones o’r Scarlets a lwyddodd i gynrychioli Cymru ar ddwy a deugain achlusur. Pwrpas yr ymweliad oedd codi ymwybyddiaeth y plant o wersyll arbennig sy’n dechrau yn ystod hanner tymor yr hydref. Yn ystod yr ymweliad, cafodd y plant gyfle i holi Dafydd am ei brofiadau gwych yn ystod ei yrfa,a chyn gorffen, cafodd llinell hir o blant cyffrous lofnod gan Dafydd a sgwrs arbennig iawn ganddo.

Trip ar y Tren
Yn ddiweddar cafodd blwyddyn 1 a 2 drip anturus ar fws ac ar drên. Yn gyntaf aethant ar y bws i Aberystwyth er mwyn dal y trên yn yn yr orsf. Yna bu’r plant yn mwynhau taith ar y trên i’r Borth. Yno buont yn mwynhau hen luniau a hanes lleol yn yr amgueddfa wrth ymyl yr orsaf. Yna nôl ar y bws i’r ysgol yn llawn gwybodaeth ddiddorol.

 |